Y Louvre ym Mharis.
Mae dyn wedi cael ei saethu a’i anafu ar ôl iddo ymosod ar filwr tu allan i amgueddfa’r Louvre ym Mharis, yn ôl heddlu Ffrainc.

Saethodd y milwr y dyn yn dilyn yr ymosodiad tu allan i’r amgueddfa, un o brif atyniadau’r ddinas, ac  mae’r ardal bellach wedi ei chau.

Yn ôl adroddiadau roedd gan y dyn gyllell machete a dau fag – ond mae’r heddlu wedi cadarnhau nad oedd ffrwydron ynddyn nhw.

Mae’n debyg bod y dyn wedi gweiddi “Allahu Akhbar” ac wedi ei niweidio yn ddifrifol ar ôl iddo gael ei saethu pum gwaith.

Mae mesurau diogelwch llymach wedi eu cyflwyno yn Ffrainc yn dilyn cyfres o ymosodiadau brawychol yno rhwng 2015 a 2016, ym Mharis a Niece.

Daw’r ymosodiad ychydig fisoedd cyn etholiadau arlywyddol Ffrainc. Ni fydd yr Arlywydd presennol, Francois Hollande, yn sefyll eto yn dilyn ei gwymp yn y polau piniwn yn ystod cyfnod yr  argyfwng.