Mae mwy na 120 o weithwyr wedi cael eu hanafu ac mae o leia’ un ar goll yn dilyn tân mewn ffatri anferth yn y Ffilipinas.

Ddiwrnod cyfan wedi i’r tân gynnau, roedd fflamau yn parhau i ddinistrio’r ffatri yn ninas General Trias yn nhalaith Cavite i’r de o’r brifddinas, Manila.

Mae pedwar o’r gweithwyr sydd wedi eu niweidio mewn cyflwr difrifol ac mae’n debyg bu’n rhaid i weithwyr neidio trwy ffenestri’r adeilad tri llawr er mwyn dianc rhag y fflamau.

Y gred yw bod y tân wedi dechrau ar ôl i beiriant diffygiol ffrwydro wrth i ddwy shifft o weithwyr, 3,500 yr un gyfnewid safleoedd.

Gyda 15,000 o weithwyr, y ffatri yw’r fwyaf yn ei dalaith.

“Dydyn ni ddim yn medru dod i unrhyw gasgliadau tra bod y tân dal yna, a does neb wedi marw hyd yn hyn,” meddai Llywodraethwr Cavite, Jesus Remulla.