Benjamin Netanyahu
Mae Prif Weinidog Israel wedi addo adeiladu’r anheddiad cyntaf ar y Lan Orllewinol ers degawdau.
Daw cyhoeddiad Benjamin Netanyahu wedi i filwyr Israelaidd glirio anheddiad Amona yn gynharach yr wythnos hon.
Er i’r llywodraeth ddadlau fel arall, fe ddyfarnodd Goruchaf Lys Israel bod Amona wedi ei adeiladu yn anghyfreithlon ar dir y Palestiniaid.
“Rydym oll yn deall dyfnder y boen, ac felly fe fyddwn yn adeiladu anheddiad newydd” meddai Benjamin Neanyahu wrth annerch torf yn anheddiad Ariel.
“Dw i eisoes wedi ffurfio tîm fydd yn dod o hyd i leoliad newydd ac fe fyddwn yn gweithredu fel bod hyn yn digwydd cyn gynted â phosib.”