Effaith y brwydro ar ddinas Aleppo (Llun: PA)
Mae byddin Syria wedi cipio ardal o rhyw gan milltir sgwâr oddi wrth milwyr y Wladwriaeth Islamaidd yn Aleppo, wrth i’r frwydr rhwng llywodraeth y wlad a’i gwrthryfelwyr barhau.

Mae lluoedd y llywodraeth yn anelu i gipio al-Bab, ac yn wynebu’r posibiliad o wrthdaro gyda milwyr Twrcaidd a gwrthryfelwyr Syriaidd sydd wedi bod yn ceisio ennill meddiant o’r dref am wythnosau.

Yn barod mae gwrthdaro wedi bod rhwng milwyr â chefnogaeth Twrci a milwyr Cwrdaidd â chefnogaeth yr Unol Daleithiau, wrth i’r ddau ochr geisio cipio Raqqa sef prif ddinas answyddogol ISIS.

Gyda chefnogaeth Rwsia ac Iran mae Llywodraeth Syria wedi addo ailsefydlu ei rheolaeth dros y wlad gyfan.

Ers curo’r gwrthryfelwyr yn ninas Aleppo mis Ragfyr mae’r fyddin wedi troi eu sylw at gipio tir yng Ngogledd Syria.