Mae dyn o Diwnisia wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gynllwyn brawychol yn dilyn cyrchoedd yn yr Almaen.

Cafodd dwsinau o adeiladau eu harchwilio fel rhan o ymchwiliad yr heddlu.

Cafodd y dyn 36 oed ei arestio yn Frankfurt wrth i’r heddlu ymchwilio i weithredoedd 16 o bobol rhwng 16 a 46 oed.

Mae’n cael ei amau o recriwtio aelodau ar gyfer Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’ – ers mis Awst 2015.

Yn ôl erlynwyr, fe lwyddodd yr heddlu i ddal yr unigolion yn gynnar iawn, a does dim lle i gredu bod ganddyn nhw darged penodol mewn golwg.

Teithio i Syria neu Irac

Yn y cyfamser, cafodd tri o bobol eu harestio yn y wlad nos Fawrth ar amheuaeth o gynllunio i deithio i Syria neu Irac.

Roedd y tri yn ymwneud â mosg Fussilet yn ninas Berlin, sy’n adnabyddus fel man ymgynnull ar gyfer radicaliaid.

Roedd Anis Amri, oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad ar farchnad a laddodd 12 o bobol yn y ddinas ym mis Rhagfyr, yn ymwelydd â’r mosg.