Y barnwr ceidwadol, Neil Gorsuch, sydd wedi’i ddewis yn ymgeisydd y Gweriniaethwyr i fod yn aelod o’r Goruchaf Lys yn yr Unol Daleithiau.

Ef yw’r ymgeisydd ieuengaf ers 25 o flynyddoedd, ac fe allai fod yn y swydd am ddegawdau i ddod pe bai e’n cael ei ethol, gan ei bod yn swydd am oes.

Mae e’n arbenigwr ar adolygu rheoliadau’r llywodraeth ac amddiffyn rhyddid crefyddol, ac yn adnabyddus am ei agwedd negyddol at y ffordd mae’r gyfraith yn cael ei dilyn.

Yn ôl yr Arlywydd Donald Trump, mae ganddo fe “sgiliau cyfreithiol rhagorol, meddwl gwych, disgyblaeth eithriadol, ac mae e wedi ennyn cefnogaeth ddi-duedd”.

Cyhoeddodd ei ddewis yn ystod ei ddarllediad cyntaf o’r Tŷ Gwyn.

Fe fydd yn rhaid i’r enwebiad gael ei gadarnhau gan y Senedd er mwyn i Neil Gorsuch gael olynu Antonin Scalia, a fu farw’r llynedd.

Democratiaid

Roedd y cyn-Arlywydd Barack Obama eisoes wedi enwebu Merrick Garland ar gyfer y swydd pan oedd e wrth y llyw, ond roedd y Gweriniaethwyr yn y Senedd yn gwrthod ei ystyried.

Roedd y Gweriniaethwyr yn mynnu y dylid aros tan ar ôl yr etholiad arlywyddol cyn penodi.

Mae’r Democratiaid wedi mynegi “amheuon difrifol” am Neil Gorsuch.

Ond mae ganddo fe radd yn y gyfraith o Brifysgol Columbia ac o Brifysgol Harvard, a gradd mewn athroniaeth o Brifysgol Rhydychen. Fe dreuliodd ddwy flynedd yn yr Adran Gyfiawnder o dan George W Bush.