Donald Trump (Michael Vadon CCA4.0)
Mae’r Arlywydd Donald Trump wedi amddiffyn ei waharddiad ar deithwyr o wledydd Mwslimaidd a ffoaduriaid rhag teithio i’r Unol Daleithiau gan ddweud ei fod yn “ymwneud a brawychiaeth a chadw’n gwlad yn ddiogel.”

Mewn datganiad, dywedodd Donald Trump: “I fod yn hollol glir, nid yw hyn yn waharddiad ar Fwslimiaid, fel mae’r cyfryngau yn ceisio ei adrodd, sy’n anghywir.”

Daeth ei ddatganiad wrth i rai Gweriniaethwyr yn y Gyngres ei annog i bwyllo yn sgil heriau cyfreithiol i’r gorchymyn sy’n gwahardd teithwyr o saith gwlad sy’n bennaf Fwslimaidd.

Ychwanegodd Donald Trump bod America yn wlad “sy’n falch o’i mewnfudwyr” ond dywedodd bod angen diogelu “ein dinasyddion a’n ffiniau.”

“Mae gen i gydymdeimlad dwys tuag at y bobl sy’n rhan o’r argyfwng dyngarol yn Syria.

“Fy mlaenoriaeth yw diogelu a gwasanaethu ein gwlad ond fel Arlywydd fe fydda’i yn ceisio dod o hyd i ffyrdd i helpu’r rhai sy’n dioddef.”

Mae’r gorchymyn dadleuol wedi arwain at brotestiadau eang yn y wlad a thu hwnt.

Mae nifer o Ddemocratiaid yn y Gyngres wedi dweud y byddan nhw’n cyflwyno deddfwriaeth i atal y gwaharddiad.

Mae’r gorchymyn yn gosod gwaharddiad ar ddinasyddion o Syria, Irac, Iran, Libanus, Somalia, Sudan ac Yemen rhag teithio i’r Unol Daleithiau.

Ond nid yw’r gwaharddiad yn atal mynediad dinasyddion o Saudi Arabia, cartref i 15 o’r 19 ymosodwr fu’n gyfrifol am ymosodiadau 9/11 yn yr Unol Daleithiau  a lle gan Donald Trump wedi buddsoddi arian.

Mae ardal Chechnya yn Rwsia, cartref ymosodwyr Marathon Boston, hefyd heb ei chynnwys ar y rhestr o waharddiadau.