Vladimir Putin (llun: PA)
Mae disgwyl y bydd Donald Trump yn trafod dyfodol sancsiynau America yn erbyn Rwsia heddiw yn ei sgwrs gyntaf â Vladimir Putin ers ei urddo’n arlywydd.

Hyd yma mae wedi gwrthod dweud  beth yw ei fwriad, er gwaethaf pryder ymysg arweinwyr gwleidyddol yn Ewrop ac ymysg ei gyd-weriniaethwyr yn America y bydd yn codi’r gwaharddiadau.

Mae’r Undeb Ewropeaidd hefyd â gwaharddiadau yn erbyn Rwsia ers ei hymddygiad bygythiol yn erbyn yr Wcrain, ac mae’r Prif Weinidog Theresa May o’r farn y dylai’r gwaharddiadau hyn barhau.

Mae’r seneddwyr gweriniaethol John McCain a Rob Portman, hefyd yn rhybuddio Donald Trump yn erbyn lliniaru unrhyw gosbau ar Rwsia, gan ddweud eu bod yn benderfynol o droi’r gwaharddiadau yn ddeddf os bydd angen.

Dywedodd ysgrifennydd cyngor diogelwch Rwsia, Nikolai Patrushev, fodd bynnag, eu bod yn obeithiol iawn wrth edrych ymlaen at alwad Donald Trump gan ddweud y bydd “popeth yn gadarnhaol”.