Donald Trump (llun: AP/David Goldman)
Mae’r Arlywydd Donald Trump wedi arwyddo gorchymyn sy’n gwahardd unrhyw ffoaduriaid rhag dod i’r Unol Daleithiau am bedwar mis, ac sy’n gwrthod mynediad i neb o saith gwlad Fwslimaidd am 90 diwrnod.

Mae’r gorchymyn yn dileu ar unwaith raglen a wnaeth alluogi 85,000 o bobl a oedd yn ffoi rhag rhyfel, gormes, newyn a gwahaniaethu ar sail crefydd ddod i fyw i America y llynedd.

Fe fydd y gwaharddiad ar wledydd Mwslimaidd yn effeithio ar drigolion Irac, Syria, Iran, Sudan, Libya, Somalia a Yemen.

“Mae arnom eisiau sicrhau nad ydym yn gadael i mewn i’n gwlad yr union fygythiadau y mae’n milwyr yn ymladd yn eu herbyn dramor,” meddai’r arlywydd wrth iddo arwyddo’r gorchymyn yn y Pentagon.

“Yr unig rai y mae arnom eisiau eu gadael i mewn i’n gwlad yw’r rheini a fydd yn cefnogi’n gwlad ac yn caru’n pobl.”

Mae’r mesurau wedi cael eu beirniadu gan wrthwynebwyr gwleidyddol Donald Trump.

“Mae dagrau’n llifo i lawr gruddiau’r Statue of Liberty heno, wrth i un o draddodiadau mawr America ers ei dechreuad, sef croesawu mewnfudwyr, gael ei sathru,” meddai Chuck Schumer, arweinydd y Democratiaid yn y Senedd.

Fe wnaeth Donald Trump arwyddo’r gorchymyn ar y diwrnod y mae’r byd yn coffáu’r Holocost.