Mae merched mor ifanc â chwe blwydd oed yn credu eu bod nhw’n llai talentog na bechgyn, yn ôl ymchwil diweddar.

Yn ôl yr ymchwil gan brifysgolion Americanaidd, mae merched ifanc yn credu bod bechgyn o’r un oedran yn fwy tebygol o allu cyflawni tasgau ar gyfer pobol “clyfar dros ben”.

Mae awduron y darganfyddiadau yn gofidio bod ystrydebau am swyddogaethau menywod yn cael eu magu o oedran ifanc ac yn debygol o atal menywod rhag dilyn gyrfaoedd o fri.

Mae ymchwil yn y gorffennol wedi darganfod bod menywod yn llai tebygol o ennill graddau ym meysydd fel Mathemateg, Ffiseg ac Athroniaeth, lle mae dawn arbennig yn cael ei hystyried yn rhinwedd allweddol.

“Daw casgliad anffodus o’r canlyniadau: o oedran ifanc mae nifer o blant yn credu mai rhinwedd gwrywaidd yw dawn ragorol,” meddai aelod o’r tîm fu’n gyfrifol am yr ymchwil.