Enrique Pena Nieto, arlywydd Mecsico (Llun: Wikipedia)
Mae Arlywydd Mecsico wedi dweud na fydd ei wlad yn talu am wal y mae Arlywydd yr Unol Daleithiau eisiau ei chodi ar y ffin rhyngddyn nhw.

Yn ystod araith wedi’i darlledu i’r genedl, dywedodd Enrique Pena Nieto: “Dw i’n difaru ac yn ymwrthod â phenderfyniad yr Unol Daleithiau i adeiladu’r wal… ni fydd Mecsico yn talu am y wal.”

Ddydd Mercher, fe arwyddodd Donald Trump ddogfen yn rhoi caniatad i’r gwaith o godi’r wal ddechrau.

Ond mae’n debyg bod Arlywydd Mecsico hefyd yn ystyried canslo taith i Washington ar Ionawr 31.

Yn ystod ymweliad ag Adran Diogelwch Gwladol dywedodd Donald Trump byddai’r wal yn “achub bywydau ar ddwy ochr y ffin”.

Pwy fydd yn talu?

Mae rhai amcangyfrifon yn awgrymu bydd y prosiect yn costio £6 i £11 biliwn ond nid yw’n glir pwy fydd yn talu amdano.

Er bod Donald Trump wedi addo mai Mecsico fydd yn talu am y mur, mae’n edrych yn debygol mae treth dalwyr yn yr Unol Daleithiau fydd yn talu am y costau ar y dechrau.