Daeth i’r amlwg fod rheolwr cwmni gwrth-hacio mwyaf Rwsia wedi’i arestio ar amheuaeth o frad ym mis Rhagfyr.

Mae cwmni Kaspersky Lab wedi cadarnhau’r adroddiadau ym mhapur newydd Kommersant fod Ruslan Stoyanov a swyddog cudd-wybodaeth FSB Rwsia wedi cael eu harestio.

Ond mae’r cwmni wedi ymbellhau oddi wrth yr adroddiadau, ac maen nhw wedi gwrthod rhoi manylion am y cyhuddiadau, gan ddweud bod y drosedd honedig wedi digwydd cyn ei fod yn gweithio iddyn nhw.

Yn ôl gwefan LinkedIn, roedd Ruslan Stoyanov yn gweithio i Undeb Troseddau Seibr Rwsia a Gweinidogaeth Gartref Rwsia ar ddechrau’r ganrif.

Unol Daleithiau

Mae gwasanaethau cudd-wybodaeth yr Unol Daleithiau wedi cyhuddo Rwsia o ymyrryd yn etholiadau arlywyddol y wlad yn ddiweddar er mwyn helpu ymgyrch Donald Trump.

Ond mae Rwsia’n gwadu’r honiadau.

Mae Rwsia hefyd wedi cael eu cyhuddo o hacio sefydliadau eraill yn y Gorllewin, ac mae pryderon y gallen nhw ymyrryd yn etholiadau’r Almaen, Ffrainc a’r Iseldiroedd eleni.

Dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd ai mewn perthynas â’r pryderon hyn y mae Ruslan Stoyanov wedi’i arestio.