Timau achub yn ardal sgio Campo Felice, yn Abruzzo, yr Eidal, wedi damwain hofrennydd. Llun: (AP Photo/Gregorio Borgia)
Mae hofrennydd oedd yn cludo sgïwr oedd wedi’i anafu wedi taro yn erbyn ochr mynydd yn yr Eidal, gan ladd pob un o’r chwech o bobl oedd ar ei bwrdd.

Dyma’r drasiedi ddiweddaraf i daro’r ardal yn ystod y dyddiau diwethaf yn sgil daeargrynfeydd, eira trwm a chwymp eira.

Mae lluniau o’r safle yn ardal Abruzzo yn dangos bod yr hofrennydd wedi chwalu’n ddarnau ar ôl taro’r mynydd.

Fe lwyddodd timau achub i gludo cyrff y rhai fu farw o’r mynydd ar slediau.

Yn ôl llygad dystion roedd ’na gymylau trwchus yn yr ardal adeg y ddamwain.

Roedd yr hofrennydd yn cludo’r sgïwr oedd wedi’i anafu o ardal sgïo Campo Felice i L’Aquila.

Abruzzo yw’r ardal fynyddig lle mae timau achub wedi bod yn chwilio am bobl oedd yn aros mewn gwesty pan fu cwymp eira ar 18 Ionawr. Cafodd 15 o bobl eu lladd ac mae 14 yn dal ar goll.