Donald Trump (Llun: Michael Vadon/CCA4.0)
Mae Donald Trump yn awyddus i ddiwygio Nato fel bod mwy o “rannu baich”, yn ôl un o gynghorwyr pennaf arlywydd newydd yr Unol Daleithiau.

Daw sylwadau Ted Malloch ar ôl i Brif Weinidog Prydain, Theresa May ddatgan fod Donald Trump wedi ymrwymo’n llwyr i Nato er ei fod e wedi lladd ar y mudiad droeon.

Mae disgwyl i’r ddau drafod y mater pan fydd hi’n teithio i Washington yr wythnos hon.

Mae Donald Trump wedi beirniadu’r gwledydd sydd wedi methu â chyrraedd y nod o wario 2% o GDP ar amddiffyn.

Sefydliadau

Mae diwygio Nato yn cael ei ystyried fel ymgais gan Donald Trump i gryfhau safle byd-eang yr Unol Daleithiau unwaith eto, ac fe awgrymodd Ted Malloch y gallai rhai sefydliadau gael eu diwygio, tra y gallai rhai newydd gael eu creu hefyd.

Dywedodd wrth raglen Sunday Politics y BBC: “Dw i’n credu bod Nato ei hun a’r ysgrifennydd amddiffyn yn mynd i gael trafodaethau â Donald Trump ynghylch sut y gall Nato gael ei ddiwygio a’i ail-ffurfio ac efallai y bydd mwy o rannu baich.

“Mae hynny’n beth pwysig i Mr Trump.”

“Rhoi’r llywodraeth yn ôl i’r bobol”

Wrth ategu geiriau Donald Trump yn ei araith gyntaf fel Arlywydd yr Unol Daleithiau ddydd Gwener, dywedodd Ted Malloch y byddai’n “rhoi’r llywodraeth yn ôl i’r bobol”, a bod hynny’n golygu diwygio perthnasau rhyngwladol y wlad.

“Dyw hynny ddim yn golygu ein bod ni’n symud allan o Nato.

“Dyw e ddim yn golygu ein bod ni’n ildio unrhyw rym sydd gennym – lle bydd yr holl gytundebau’n cael eu rhwygo, mae’n golygu yn syml iawn y byddwn ni’n rhoi ein buddiannau ni, ein buddiannau cenedlaethol ni, yn gyntaf.”