Mae pleidleiswyr asgell chwith yn dewis ymgeisydd arlywyddol heddiw ar gyfer yr etholiadau ym mis Ebrill a Mai.
Y gobaith yw dod o hyd i ymgeisydd digon cryf i herio’r ceidwadwyr a’r cenedlaetholwyr.
Mae saith ymgeisydd o’r Blaid Sosialaidd yn sefyll yn y rownd gyntaf, gyda’r ddau sy’n dod i’r brig yn herio’i gilydd yn yr ail rownd ar Ionawr 29.
Mae’r cyn-Brif Weinidog Manuel Valls yw’r ffefryn i ennill, ond mae’n cael ei herio gan Arnaud Montebourg a Benoit Hamon.
Mae’n debygol y bydd yr etholiadau arlywyddol yn cylchdroi o amgylch y ddadl tros fewnfudwyr ac economi wan.
Dydy’r Arlywydd Francois Hollande ddim yn sefyll eto yn sgil yr effaith y gallai ei amhoblogrwydd ei gael ar y blaid.