Yr Arlywydd Donald Trump (Llun: Michael Vadon CCA4.0)
Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump a’i Ysgrifennydd y Wasg, Sean Spicer wedi cyhuddo newyddiadurwyr o ddweud bod llai o bobol yn y dorf i weld urddo’r Arlywydd newydd yn Washington ddydd Gwener nag yr oedd mewn gwirionedd.

Yn ôl Donald Trump, roedd y dorf yn ymestyn yn ôl i Gofeb Washington, ond mae tystiolaeth ffotograffig a fideo yn dangos nad yw hynny’n wir.

Mae lle i gredu bod mwy o bobol yn y protestiadau amrywiol yn Washington yn ei erbyn nag yr oedd yno i’w wylio’n cael ei urddo.

Ond dydy’r ffigurau swyddogol ddim ar gael, er bod Donald Trump yn dweud bod miliwn o bobol yno.

Ysgrifennydd y Wasg

Yn fuan ar ôl gwneud y sylw, cafodd Ysgrifennydd y Wasg, Sean Spicer ei anfon i ailadrodd y neges wrth newyddiadurwyr yn y Tŷ Gwyn.

Dywedodd Sean Spicer: “Mae cryn dipyn o sôn yn y cyfryngau am gynnal Donald Trump i gyfri.

“Ac rwy yma i ddweud wrthoch chi fod hynny’n mynd y ddwy ffordd. Ry’n ni’n mynd i ddal y cyfryngau i gyfri hefyd.”

Mae Donald Trump a Sean Spicer ill dau wedi cyhuddo cylchgrawn Time o adrodd ar gam ddydd Gwener fod cofeb i Martin Luther King wedi cael ei symud allan o’r Oval Office.

Ond wrth gyfeirio at y mater, dywedodd Donald Trump ar gam nad oedd y stori wedi cael ei chywiro – cafodd ei chywiro’n gyflym.