Mae 41 o bobol wedi’u hanafu – ac un person wedi cael anafiadau difrifol – yn dilyn tân mewn clwb nos yn Rwmania.

Dechreuodd y tân yng nghlwb Bamboo yn ninas Bucharest, gan ddinistrio’r adeilad yn llwyr.

Cafodd rhai pobol eu trin am effeithiau mwg, tra bod eraill wedi cael anafiadau wrth neidio o lawr ucha’r adeilad.

Mae chwech o bobol yn dal yn yr ysbyty, ac un mewn cyflwr difrifol.

Dydy hi ddim yn glir eto beth oedd wedi achosi’r tân, ac mae ymchwiliad ar y gweill.