Mae'r gwaith o chwalu rhai o ddeddfau amhoblogaidd Barack Obama wedi dechrau (Llun: PA)
Mae Arlywydd newydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump wedi dechrau ar y gwaith o ddiddymu deddfau iechyd amhoblogaidd ei ragflaenydd Barack Obama.

Yn syth wedi’r seremoni urddo brynhawn ddoe, aeth Donald Trump ati i ddechrau rhoi trefn ar ei weinyddiaeth Weriniaethol newydd, sy’n cynnwys diddymu rhai o ddeddfau’r Democratiaid.

Y bore ma, fe fydd Donald Trump yn mynd i wasanaeth eglwysig, sef rhan ola’r traddodiad o symud o un arlywydd i’r llall.

Mae Donald Trump eisoes wedi llofnodi dogfen yn datgan ei fwriad i ddiddymu’r ddeddf iechyd sy’n cael ei adnabod fel ‘Obamacare’, ac mae’n atal yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Dynol rhag cyflwyno deddfwriaeth all roi pwysau ariannol ychwanegol ar daleithiau, darparwyr iechyd, teuluoedd neu unigolion.

Penodiadau newydd

Mae Donald Trump hefyd wedi llofnodi dogfen sydd mewn egwyddor yn penodi James Mattis yn Ysgrifennydd Amddiffyn.

Cyn hyn, doedd dim hawl gan unrhyw aelod o’r lluoedd arfog fod yn gyflogedig gan y Pentagon am hyd at saith mlynedd ar ôl gadael, ond mae Donald Trump wedi dechrau diddymu’r ddeddf honno.

Mae John Kelly hefyd wedi cael ei benodi i Adran Ddiogelwch y Famwlad.

Un o dasgau cyntaf Donald Trump heddiw fydd cyfarfod â’r CIA a cheisio gwella perthynas sydd wedi cael ei niweidio gan ei sylwadau amdanyn nhw yn ystod ei ymgyrch.