Arlywydd newydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump (Llun: Michael Vadon CC4.0)
Fe fydd hyd at 200,000 o ferched yn protestio yn Washington heddiw ar ddiwrnod llawn cyntaf Donald Trump yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.

Roedd protestiadau treisgar yn y ddinas neithiwr ar ôl i’r Arlywydd newydd gael ei urddo’n swyddogol.

Ymhlith y rhai y mae disgwyl iddyn nhw gymryd rhan yn y protestiadau mae’r gantores Katy Perry, yr actores Scarlett Johansson a’r gomediwraig Amy Schumer.

Cafodd 217 o bobol eu harestio ym mhrifddinas yr Unol Daleithiau ddoe wrth i siopau gael eu dinistrio a cheir eu rhoi ar dân.

Mae adroddiadau hefyd fod gwrthdaro rhwng protestwyr a’r heddlu yn Chicago brynhawn ddoe.

Yn ôl y protestwyr, mae rhethreg yr etholiad wedi “sarhau, dieithrio a bygwth” merched.

Mae disgwyl protestiadau tebyg yn Los Angeles a Utah, yn ogystal â Chaerdydd, Llundain a Chaeredin.