Adfeilion Rhufeinig Palmyra
Mae milwyr y Wladwriaeth Islamaidd wedi dinistrio heneb hynafol Rufeinig yn ninas hanesyddol Palmyra yn ôl grwpiau monitro.

Mi wnaeth delweddau lloeren gadarnhau ddoe bod talcen theatr 900 oed hefyd wedi ei ddinistrio gan y rhyfelwyr.

Cafodd y Safle Treftadaeth Byd UNESCO ei gipio yn ôl gan yr eithafwyr Islamaidd ym mis Rhagfyr, sef naw mis ar ôl iddyn nhw golli meddiant o’r ardal.

Rhwng Mai 2015 a 2016 cafodd cyfres o adeiladau hynafol eu dinistrio gan gynnwys Temlau Mesopotamaidd a Bwa Rhufeinig.

Mae’r ddinas, sy’n gartref i golofnau 2,000 oed, wedi ei thargedu gan y Wladwriaeth Islamaidd gan eu bod yn gweld yr henebion fel delwau.