Mae wyth person, gan gynnwys dau blentyn, wedi eu canfod yn fyw yn rwbel gwesty yn yr Eidal ar ôl iddo gael ei ddymchwel gan gwymp eira, yn ôl asiantaeth newyddion lleol.

Roedd tua 30 person yn sownd y tu fewn i Westy Rigopiano yn rhanbarth Abruzzo, pan gympodd yr eira, gyda dau berson yn goroesi ac yn rhoi gwybod i’r awdurdodau am y chwalfa.

Dywedodd asiantaeth newyddion Ansa fod diffoddwyr tân wedi gallu cysylltu â’r goroeswyr ond eu bod yn dal i fod dan y rwbel.

Mae hofrenyddion wedi cael eu hanfon i’r safle i helpu gyda’r ymgyrch i’w tynnu allan.

Ychydig oriau cyn canfod yr wyth, roedd gobeithion o ddod i hyd i unrhyw un yn fyw yn yr eira yn dechrau pylu.