Mae gweithiwr Prydeinig wedi marw tra’n gweithio ar un o adeiladau Cwpan y Byd Qatar 2020.
Yn ôl trefnwyr y digwyddiad bu farw’r dyn 40 oed ddoe wrth weithio ar Stadiwm Ryngwladol Khalifa, ac mae ymchwiliad i achos y farwolaeth.
Mae’r adeilad amlbwrpas sydd ar hyn o bryd yn dal 40,000 yn cael ei wneud yn fwy, fel ei fod yn medru dal 68,000 bobol.
Ers ennill yr hawl i gynnal y gystadleuaeth mae amodau gweithio adeiladwyr yn Qatar wedi eu beirniadu’n llym yn sgil cyfres o farwolaethau ar feysydd adeiladu’r wlad.
“Mae’n annerbyniol bod mesurau iechyd a diogelwch sylfaenol ddim yn cael eu dilyn … mae FIFA ac awdurdodau Qatar blaenoriaethu elw dros ddiogelwch,” meddai Ysgrifennydd Chwaraeon yr wrthblaid yn y wlad, Rosena Allin-Khan.