Mae’r chwilio’n parhau am tua 30 o bobol sy’n dal i fod yn sownd yn dilyn cwymp eira anferth a chwalodd westy anghysbell ym mynyddoedd yr Eidal.

Daeth y timau achub wedi dod o hyd i ddau gorff ac yn ôl cyfryngau’r Eidal, mae dau gorff arall wedi cael eu canfod yn yr eira, wrth i obeithion am ddod o hyd i unrhyw oroeswyr bylu.

Yn dilyn y cwymp eira ddydd Mercher mae’r timau achub wedi cael trafferthion yn ceisio cyrraedd Gwesty Rigopiano yn rhanbarth Abruzzo gan fod eira yn rhwystro’r unig ffordd yno.

Bu’n rhaid i’r timau achub cyntaf sgïo at y safle yn gynnar bore ddoe a chyrhaeddodd ymladdwyr tân ar hofrennydd.

Dau berson wedi dianc

Fe wnaeth dau berson ddianc o’r gyflafan a galw am help ond fe gymerodd oriau i’r gwasanaethau gyrraedd y gwesty, sydd tua 30 milltir o’r ddinas arfordirol yn Pescara.

Dywedodd un o’r bobol a oroesodd fod ymwelwyr y gwesty i gyd wedi gadael a’u bod yn aros i’r ffordd gael ei chlirio cyn gadael, pan ddaeth y llif mawr o eira.

Daeth neb i glirio’r ffordd, er bod hynny i fod i ddigwydd yng nghanol y prynhawn, ac fe ddigwyddodd y gwymp eira am tua 5:30 [amser lleol] y prynhawn.

Mae ymchwiliad o ddynladdiad wedi dechrau, gyda rhai yn gofyn a wnaeth yr awdurdodau gymryd bygythiad y cwymp eira o ddifrif.

Mae’r rhanbarth yng nghanol yr Eidal wedi cael ei fwrw gan gyfres o ddaeargrynfeydd ers mis Awst, pan gafodd bron i 300 o bobol eu lladd.