Yahya Jammeh, y cyn-Arlywydd (Diolch i IISD/Earth Negotiations Bulletin CCA3.0)
Mae Arlywydd y Gambia a gafodd ei drechu mewn etholiad ym mis Rhagfyr wedi cael gwybod bod yn rhaid iddo ildio grym erbyn canol dydd heddiw neu bydd yn cael ei orfodi allan gan y fyddin.

Fe all Yahya Jammeh gael ei orfodi i symud gan fyddin ranbarthol Gorllewin Affrica ar ôl iddyn nhw symud i’r wlad gyda thanciau.

Mae Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig wedi rhoi sêl bendith ar yr ymyrraeth filwrol wedi i arlywydd newydd y Gambia, Adama Barrow, gael ei urddo yn llysgenhadaeth y Gambia yn Senegal, y wlad drws nesa’.

Roedd Yahya Jammeh wedi perswadio senedd y wlad i roi tri mis ychwanegol iddo ond mae hynny wedi cael ei gondemnio gan y gwledydd o’i gwmpas.