Mae beth bynnag 60 o bobol wedi marw ar ôl i hunanfomiwr mewn cerbyd yn llawn o ffrwydron ymosod ar wersyll yng ngogledd Mali.

Mae cyfanswm o 115 o filwyr a chyn-ymladdwyr, sydd nawr yn cael eu hyfforddi i sefydlogi’r ardal, wedi’u hanafu yn y digwyddiad y tu allan i wersyll milwrol yn ninas Gao.

Does yr un mudiad wedi hawlio cyfrifoldeb am y ffrwydriad hyd yn hyn, ond grwpiau Mwslimaidd eithafol sy’n cael eu hamau.

Fe ddigwyddodd y ffrwydriad ar adeg arwyddocaol yn yr ardal, gan fod disgwyl i Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig drafod Mali yr wythnos hon.