Daeargryn y llynedd yn Amatrice (Llun: PA)
Mae tri daeargryn wedi ysgwyd canolbarth yr Eidal o fewn awr, gan daro’r union ardal a ddioddefodd gyfres o ddaeargrynfeydd y llynedd.

Roedd y crynu i’w deimlo mor bell i ffwrdd â dinas Rhufain, lle cafodd y rheilffyrdd dan-ddaear eu cau, ac fe anfonwyd plant gartre’ o’r ysgol.

Fe ddaeth cadarnhad gan arlywydd y wlad, Paolo Gentiloni, nad oes neb wedi’i ladd hyd yn hyn. Fe ddisgrifiodd heddiw fel “diwrnod anodd” i’r Eidal.