Llun: Malaysia Airlines
Mae perthnasau’r teithwyr oedd ar awyren Malaysia Airlines 370 wedi mynegi eu siom a’u hanfodlonrwydd yn dilyn y cyhoeddiad bod y chwilio am yr awyren wedi dod i ben.
Dywedodd y grŵp sy’n cynrychioli teuluoedd y teithwyr ar y daith bod parhau â’r ymchwiliad yn “ddyletswydd i’r cyhoedd.”
Mae’r criw oedd yn gyfrifol am y chwilio wedi treulio’r tair blynedd ddiwethaf yn chwilio ardal sy’n cwmpasu 46,000 milltir lle maen nhw’n credu roedd yr awyren wedi plymio i’r môr.
Methodd y criw i ddod o hyd i brif rannau o’r awyren, y bocs du neu unrhyw arwydd o’r teithwyr ac aelodau o’r criw oedd ar yr awyren.
Dyma oedd yr ymgyrch chwilio fwyaf costus yn hanes y diwydiant awyrennau gyda chost o £130 miliwn.
Roedd 239 o bobol ar fwrdd yr awyren pan ddiflannodd wrth deithio dros Gefnfor yr India yn ystod taith rhwng Kuala Lumpur a Beijing.