Llun: Gwefan BPM
Mae o leiaf pump o bobl wedi’u lladd ar ôl saethu mewn clwb nos ym Mecsico.

Yn ôl llygad dystion cafodd ergydion eu tanio yng nghlwb y Blue Parrot yn Playa del Carmen ar noson olaf gŵyl gerddoriaeth BPM.

Dywedodd swyddog yr heddlu ym Mecsico bod 15 o bobl eraill wedi’u hanafu.

Meddai’r Swyddfa Dramor ei bod yn ceisio cael rhagor o wybodaeth gan y gwasanaethau brys ym Mecsico yn dilyn yr adroddiadau a’u bod “yn barod i helpu mewn unrhyw ffordd.”

Mae’r ŵyl wedi’i chynnal ers 10 mlynedd ac mae’n boblogaidd gyda thwristiaid, yn enwedig rhai o’r Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau.

Mewn datganiad ar twitter, dywedodd gŵyl BPM bod tri o’u swyddogion diogelwch ymhlith y meirw a’u bod yn estyn eu cydymdeimlad i deuluoedd a ffrindiau’r rhai gafodd eu lladd.