Heddlu arfog ar strydoedd Brwsel (Llun: PA)
Mae tri o bobol a gafodd eu harestio yn ystod cyrchoedd ar gyrion dinas Brwsel wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Maen nhw wedi’u hamau o droseddau brawychol.
Cafodd y cyrchoedd eu cynnal yn Molenbeek, ardal lle mae nifer o frawychwyr, gan gynnwys rhai oedd ynghlwm wrth gyflafan Paris a Brwsel, yn byw.
Cafodd y tri eu holi a’u rhyddhau, yn ôl yr awdurdodau.
Doedd yr heddlu ddim wedi dod o hyd i arfau yn ystod y cyrchoedd, ond does dim rhagor o fanylion am yr ymchwiliad ar hyn o bryd.