Roedd dynes a phlentyn ymhlith o leiaf chwech o bobol sydd wedi cael eu lladd yn dilyn ffrwydrad yn Afghanistan.
Tarodd eu cerbyd fom ar ymyl ffordd yn nhalaith Nangarhar yn nwyrain y wlad.
Cafodd dau o bobol eraill eu hanafu yn y digwyddiad yn ardal Pachir-wa Gam.
Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb, ond mae’r Taliban a Daesh – neu’r Wladwriaeth Islamaidd – yn weithgar yn yr ardal.