Baner y Wladwriaeth Islamaidd
Mae lluoedd Irac wedi ailgipio tair o bum pont Mosul yn eu brwydr i adennill ail ddinas fwyaf y wlad oddi ar y Wladwriaeth Islamiaidd.

Roedd awyrennau’r glymblaid o dan arweiniad America wedi bomio pontydd y ddinas yn hwyr y llynedd er mwyn ceisio ynysu lluoedd y Wladwriaeth Islamaidd yn y dwyrain.

Ers bore ddoe, mae milwyr Irac bellach yn brwydro’r Wladwriaeth Islamaidd ar dir prifysgol Mosul, ac wedi meddiannu rhai o’r adeiladau.

Ers i’r cyrch mawr i adfeddiannu Mosul oddi ar y Wladwriaeth Islamaidd gychwyn ym mis Hydref, mae lluoedd Irac bellach wedi adennill tua thraean o’r ddinas.