Mae dau aelod o grŵp R&B wedi goroesi cael eu taro gan drên wrth gerdded ar hyd cledrau cyn perfformiad.

Mae drymiwr a chwaraewr gitâr fas y band Tower of Power, David Garibaldi a Marc van Vageningen, yn cael eu trin mewn ysbyty lleol yn ôl eu hasiant cyhoeddusrwydd.

Cafodd yr aelodau eu taro gan y trên yn Oackland, California ddoe, yn agos i glwb lle’r oedden nhw i fod i berfformio yn hwyrach yn y nos.

Nid yw’n glir pam yr oedd y dynion yn cerdded ar hyd y cledrau ond yn aml mae’n rhaid i gerddwyr lleol eu croesi er mwyn croesi’r strydoedd.

Mae Tower of Power wedi recordio gyda Syr Elton John, Otis Reading, Aerosmith a Santana.