Dylann Roof (Llun: Wikipedia)
Mae saethwr wedi cael ei ddedfrydu i farwolaeth am lofruddio naw o bobol yn ystod cyfarfod mewn eglwys yn Ne Carolina.

Bu’r rheithgor yn trafod am tua tair awr yn dilyn achos llys bu Dylann Roof yn ei gynrychioli ei hun yn gyfreithiol.

Fel cyfreithiwr ei hun, methodd â chynnig unrhyw dystiolaeth a gwrthododd groesholi llygaid dystion. Mynnodd nad oedd yn sâl yn feddyliol a ni ddangosodd unrhyw emosiwn pan gyhoeddwyd y rheithfarn.

“Mae gennyf yr hawl i ofyn am gaethiwed oes ond dwi’n credu byddai hynny’n dda i ddim beth bynnag,” meddai Dylann Roof yn y llys. “Dw i’n dal i deimlo fod yn rhaid i mi wneud beth wnes i.”

Dylann Roof yw’r dyn cynta’ i gael ei ddedfrydu i Death Row ers 2015, ac ef fydd y cynta’ i gael ei ddienyddio am drosedd gasineb.