Mae milwyr Israel wedi saethu’n farw Balesteiniad sy’n cael ei gyhuddo o geisio trywanu soldiwrs ar y Lan Orllewinol.

Mae Israel yn dweud fod y milwyr ar gyrch i arestio yng ngwersyll ffoaduriaid Fara yn gynnar ddydd Mawrth, pan ddaeth y Palesteiniad atyn nhw gan gario cyllell.

Fe gafodd ei saethu gan y milwyr wedi iddo anwybyddu cyfarwyddiadau i aros yn llonydd, meddai’r fyddin. Ond mae Palesteiniaid yn dweud i Mohammed al-Salhi, 32, gael ei saethu’n farw yn ei gartre’.

Ers mis Medi 2015, mae ymosodwyr Palesteinaidd wedi lladd 40 o Israeliaid, a’r mwyafrif ohonyn nhw trwy drywanu. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae 231 o Balesteiniaid wedi’u saethu’n farw gan Israeliaid.