Mae’r cyn-filwr sydd wedi’i arestio ar amheuaeth o droseddau treisgar mewn maes awyr yn Fflorida’n wynebu’r gosb eithaf.

Mae Esteban Santiago, 26, wedi’i gyhuddo o ladd pump o bobol ac anafu chwech arall yn Fort Lauderdale, ac o nifer o droseddau’n ymwneud ag arfau.

Dywedodd wrth yr awdurdodau ei fod e wedi cynllunio’r ymosodiad, gan brynu tocyn i’r maes awyr.

Ond dydyn nhw ddim yn gwybod hyd yma beth oedd ei gymhelliant, a dydy’r heddlu ddim wedi wfftio’r posibilrwydd fod rhesymau brawychol ganddo.

Mae hyd at 175 o bobol wedi cael eu holi fel rhan o’r ymchwiliad.

Mae’r heddlu’n gwybod fod ganddo fe hanes o salwch iechyd meddwl ac ym mis Tachwedd, fe gerddodd i mewn i swyddfa’r FBI yn Alaska gan honni bod llywodraeth yr Unol Daleithiau’n ceisio rheoli ei feddwl ac yn ei orfodi i wylio fideos Daesh, neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’.

Ar y pryd, roedd ganddo fe ddryll gyda fe, ond fe gafodd ei gipio oddi arno fe gan yr heddlu. Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd ai’r un dryll a gafodd ei ddefnyddio ar gyfer yr ymosodiad diweddaraf.