Mae miloedd o bobol wedi bod yn ciwio ger llyn Michigan i gael gafael ar docyn ar gyfer araith olaf Barack Obama cyn iddo orffen ei dymor fel Arlywydd yr Unol Daleithiau.

Mae’r digwyddiad rhad ac am ddim yn cael ei gynnal yn Chicago nos Fawrth.

Fe fydd yr ‘araith olaf’ yn barhad o draddodiad a gafodd ei sefydlu gan George Washington yn 1796.

Yn ôl Barack Obama, fe fydd yn “gyfle i ddweud diolch am y daith ryfeddol hon”.