Roedd ymosodiad ar gyfrifiaduron prif asiantaeth newyddion y Baltics yn Estonia brynhawn dydd Gwener.

Daeth cadarnhad o’r ymosodiad y prynhawn yma.

Cafodd cyfrifiaduron asiantaeth BNS eu heffeithio am hyd at 10 awr.

Mae’r holl wasanaethau’n gweithio’n iawn erbyn hyn.

Does dim awgrym ar hyn o bryd pwy oedd wedi ymosod ar y system.

Mae BNS yn darparu newyddion yn ieithoedd brodorol gwledydd y Baltics, gan gynnwys ieithoedd Estonia, Latfia a Lithwania, yn ogystal ag yn Saesneg a Rwsieg.