Mae o leiaf 15 o bobol wedi cael eu lladd ar ôl i fom car gael ei ffrwydro ger y ffin rhwng Syria a Thwrci.

Cafodd y bom ei ffrwydro mewn marchnad brysur yn un o drefi gwrthryfelwyr, Azaz yng ngogledd Aleppo.

Mae rhai ffynonellau’n dweud bod 19 o bobol wedi cael eu lladd, ond mae disgwyl i’r nifer gynyddu.

Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb hyd yma.