Enrique Pena Nieto yw Arlywydd Mecsico.
Mae codi prisiau petrol wedi tanio protestio ym Mecsico, gyda thrais yn arwain at ladd plisman ac aelod o’r cyhoedd.

Fe gafodd dros 700 eu harestio wrth i 300 o siopau gael eu hysbeilio gan bobol wedi eu cythruddo gyda chynnydd o 20% ym mhris petrol.

Mae Llywodraeth Mecsico wedi ddadreoleiddio’r diwydiannau ynni a rhoi’r gorau i dalu sybsidi er mwyn cadw pris petrol yn isel.

Bu’n rhaid i lawer o fusnesau gau oherwydd yr anhrefn wrth i brotestwyr achosi tagfeydd pwrpasol ar briffyrdd ac mewn porthladdoedd, gan darfu ar y cyflenwad o betrol a nwyddau.

Digwyddodd yr ysbeilio yn y siopau wrth i rieni wynebu’r diwrnod olaf o siopa cyn un o wyliau swyddogol y wlad heddiw.

Wrth gydnabod fod pobol yn flin, dywedodd Arlywydd Mecsico y bydd y cynnydd ym mhris petrol yn aros.

“Rydw i’n gwybod bod caniatáu i bris petrol godi i’w bris rhyngwladol yn anodd, ond fy ngwaith i, yr Arlywydd, yw gwneud penderfyniadau anodd rŵan, er mwyn osgoi canlyniadau gwaeth yn y dyfodol,” meddai Enrique Pena Nieto.

“Byddai cadw pris petrol yn artiffisial o isel yn golygu cymryd arian oddi ar y tlotaf ym Mecsico, a’i roi i’r rhai hynny sydd â’r mwyaf.”