Mae tanau gwyllt yn ardal gwinllannoedd De Affrica wedi dinistrio rhan o un o ystadau hyna’r wlad.

Yn ôl rheolwr fferm win Vergelegen mae’r 40% o’r ystâd cafodd ei sefydlu yn y deunawfed ganrif wedi cael ei ddinistrio gan danau.

Mi wnaeth diffoddwyr tân weithio trwy’r nos er mwyn ceisio diffodd 106 tân yn yr ardal ac ni chafodd unrhyw un ei lladd.

Gan ei bod hi’n haf yn y wlad sydd wedi ei leoli yn yr hemisffer deheuol mae glawiad isel, llystyfiant sych a gwyntoedd cryfion wedi cyfrannu at y tân.

Mi wnaeth y tân hefyd losgi llethrau mynydd Table Mountain uwchben maestref Llandudno ger Cape Town.