Hebron, lle cafodd Abdel Fattah al-Sharif ei saethu'n farw
Mae milwr o Israel wedi ei gael yn euog o ddynladdiad dyn Palestinaidd a oedd wedi ei anafu.

Cafodd y Sarsiant Elor Azaria, 20, sydd yn feddyg â’r fyddin, ei ffilmio ar gamera ffon symudol yn saethu’r ymosodwr yn ei ben ym mis Mawrth.

Roedd y dyn, Abdel Fattah al-Sharif, wedi trywanu milwr yn ninas Hebron yn y Lan Orllewinol. Roedd yn ddiarfog, yn gorwedd ar y llawr, ac wedi ei anafu, pan gafodd ei saethu.

Fe  wnaeth y panel o farnwyr wrthod amddiffyniad Elor Azaria a oedd yn honni bod Abdel Fattah al-Sharif eisoes wedi marw neu yn peri bygythiad. Dywedodd y barnwyr ei fod wedi saethu Abdel al-Sharif yn “ddiangen”.

Mae’n anarferol i lys milwrol Israelaidd  ochri yn erbyn milwr ar sail gweithredoedd ym maes y gad ac mae gwleidyddion a chefnogwyr Elor Azaria wedi ymateb yn chwyrn i’r dyfarniad.

Mae’r tîm  sy’n amddiffyn Elor Azaria wedi dweud y byddan nhw’n apelio yn erbyn y dyfarniad.