Istanbul
Mae pump o bobol wedi cael eu harestio ar amheuaeth o fod â rhan yn yr ymosodiad brawychol ar glwb nos yn Istanbul nos Sadwrn.

Ond mae’r heddlu’n parhau i chwilio am y saethwr a laddodd 39 o bobol.

Mae Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’ – wedi hawlio cyfrifoldeb am y digwyddiad, pan gafodd bron i 70 o bobol eu hanafu.

Yn ôl Gweinidog Tramor Twrci, Mevlut Cavusoglu, mae’r awdurdodau’n gwybod pwy oedd y saethwr, ond does dim rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd.

Pobol o’r Dwyrain Canol oedd y rhan fwya’ o’r rheiny a gafodd eu lladd.

Mae lle i gredu bod y saethwr wedi symud i ardal Izmir, lleoliad y digwyddiad, o Konya yng nghanol Twrci rai wythnosau yn ôl.