Tan yn Valparaiso, Chile (Llun: PA)
Mae gwyntoedd cryfion a thân wedi dinistrio dwsinau o dai ger porthladd Valparaiso yn Chile, ac mae 19 o bobol wedu’i hanafu.

Fe ledaenodd y tân dros ardal o goedwigoedd a bryniau yn Playa Ancha, lle mae nifer fawr o’r tai wedi’u gwneud allan o bren.

Fe fu’n rhaid i 400 o bobol adael eu cartrefi gyda 100 o gartrefi wedi difrodi a 500 arall dan fygythiad.

Bu diffoddwyr tân, milwyr a gweithwyr lleol yn ceisio diffodd y fflamau a gafodd eu nerthu gan wyntoedd 25mya, lleithder isel a thymheredd uchel.

Yn 2014, fe gafodd 2,500 o gartrefi eu dinistrio, a 15 o bobol eu lladd, yn yr un bryniau o gwmpas Valparaiso.