Y carchar ym Manaus (o wefan y cwmni preifat sy'n ei reoli)
Mae o leia’ 60 o garcharorion wedi eu lladd mewn terfysg mewn carchar yn Brasil – a rhai wedi marw mewn modd dychrynllyd.

Roedd barnwr a fu yno’n trafod gyda’r carcharorion wedi disgrifio cyrff â’u pennau wedi eu torri i ffwrdd a’u chwarteru ar ôl yr helynt a ddechreuodd brynhawn dydd Sul a pharhau tan fore Llun.

“Welais i ddim byd tebyg i hynna yn fy nydd,” meddai ar wefan gymdeithasol Facebook. “Yr holl gyrff, y gwaed.”

Dianc

Roedd rhai carcharorion wedi dianc hefyd wrth i 12 o staff y carchar ym Manaus gael eu cadw’n gaeth.

Y gred yw fod y terfysg yn rhan o frwydr rhwng dwy gang sydd wedi bod yn ceisio rheoli carchardai ym Mrasil.

Roedd 87 o garcharorion wedi dianc o garchar arall yn yr un dalaith, Amazonas, yng ngogledd-orllewin eitha’r wlad.