Baghdad (Llun: PA)
Mae o leiaf 28 o bobol wedi cael eu lladd a 54 wedi’u hanafu yn dilyn dau ffrwydrad yn Irac.

Digwyddodd y ffrwydradau’r bore ma yn al-Sinak, marchnad brysur sy’n gwerthu nwyddau i geir, bwyd a dillad, ynghyd â nwyddau a pheiriannau amaethyddol.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd beth yn union ddigwyddodd, ond roedd lle i gredu’n syth ar ôl y digwyddiad mai bom car oedd yn gyfrifol am y ffrwydrad cyntaf, a hunanfomiwr wedi ffrwydro dyfais i achosi’r ail ffrwydrad.

Erbyn hyn, mae’r heddlu’n dweud bod dau hunanfomiwr yn gyfrifol.

Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb, ond mae Daesh – neu’r Wladwriaeth Islamaidd – wedi bod yn achosi ffrwydradau bron yn ddyddiol yn Baghdad dros y misoedd diwethaf.