Debbie Reynolds a Carrie Fisher (Llun: PA)
Daeth cadarnhad y bydd yr actoresau Debbie Reynolds a Carrie Fisher yn cael angladd ar y cyd ac yn cael eu claddu gyda’i gilydd.

Bu farw Debbie Reynolds, seren ‘Singin’ In The Rain’ yn 84 oed ddiwrnod yn unig ar ôl ei merch, Carrie Fisher, a chwaraeodd gymeriad Princess Leia yn ffilmiau ‘Star Wars’.

Bydd y ddwy yn cael eu claddu yn Forest Lawn-Hollywood Hills mewn mynwent lle cafodd Bette Davies, Stan Laurel a Liberace eu claddu.

Bydd y ddwy yn cael angladd preifat, gyda’r posibilrwydd o gynnal gwasanaeth coffa’n ddiweddarach.

Bu farw Debbie Reynolds yn 84 oed ddydd Mercher ar ôl cael strôc, ddiwrnod ar ôl i’w merch farw yn yr ysbyty ar ôl cael trawiad ar y galon ar awyren o Lundain i Los Angeles.

Dywedodd Todd Reynolds, mab Debbie Reynolds a brawd Carrie Fisher, mai geiriau olaf ei fam oedd ei bod hi “eisiau bod gyda Carrie”.

Ychwanegodd fod marwolaethau’r ddwy “yn ofnadwy, yn brydferth ac yn hudolus”.

Bydd rhaglen deyrnged i’r ddwy ar sianel HBO yn yr Unol Daleithiau ar Ionawr 7.