Mae llysgennad Groeg yn Brasil wedi cael ei ladd yn ei gartre’ yn ninas Rio de Janeiro.

Fe aeth Kyriakos Amiridis ar goll ddydd Llun yn ninas Nova Iguacu, 25 milltir i’r gogledd o Rio. Roedd wedi bod ar wyliau.

Ond heddiw, fe gadarnhaodd yr heddlu fod gwaed y llysgennad wedi’i ganfod ar soffa yng nghartre’ ei wraig, Francoise Amiridis.

Mae’r wraig, ynghyd â dynes arall a dau ddyn, wedi’u henwi fel rhai sy’n cael eu hamau yn yr achos.