Benjamin Netanyahu
Mae prif weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, wedi gwadu honiadau iddo dderbyn rhoddion gan ddau wr busnes, ac mae wedi galw’r honiadau yn rhai “di-sail”.

Mae gorsaf deledu Channel 2 TV yn Israel wedi cario adroddiadau yn honni fod Benjamin Netanyahu wedi derbyn “ffafrau” gan ddynion busnes gartre’ a thramor.

Mae hefyd yn honni fod y prif weinidog yn destun ail ymchwiliad sydd hefyd yn cynnwys aelodau o’i deulu. Mae disgwyl i ymchwiliad troseddol gael ei gyhoeddi yr wythnos nesa’.

Mae Aelod Seneddol yr wrthblaid yn Israel, sy’n ymgyrchu am i Benjamin Netanyahu sefyll ei brawf ar amheuaeth o lygredd ac o symud arian yn anghyfreithlon, hefyd am ei weld yn ateb cwestiynau ynglyn â honiadau i’w gyfreithiwr personol gynrychioli cwmni o’r Almaen mewn achos o brynu a gwerthu llongau tanfor gwerth $1.5bn (£1.2bn) i Israel.