Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, wedi gosod sancsiynau ar wasanaethau gwybodaeth Rwsia a’i swyddogion, gan hel 35 o’r swyddogion hynny o ganolfannau Rwsia yn yr Unol Daleithiau.

Dyna’r gosb, meddai, am hacio cyfrifiaduron yn ystod yr etholiad arlywyddol yn America eleni – a dyma hefyd y gweithredu cryfa’ gan weinyddiaeth Obama yn erbyn unrhyw fath o ymosod seibr.

“Fe ddylai pawb yn America gael ei ddychryn gan y modd y mae Rwsia wedi gweithredu,” meddai Barack Obama. “Mae gan weithredu o’r fath oblygiadau.”

Mae Barack Obama wedi gorchymyn y sanciynau yn erbyn dau wasanaeth gwybodaeth Rwsia, y GRU a’r FSB, yn ogystal â chwmnïau y mae’r Unol Daleithiau yn dweud sy’n gefnogol i GRU.

Mae’r arlywydd hefyd wedi gosod sancsiynau ar bennaeth y GRU, y Cadfridog Korobov, a thri o’i ddirprwyon; yn ogystal ag Alexei Belan a Yevgeny Bogachev, dau Rwsiad y mae’r FBI wedi bod yn chwilio amdanyn nhw ers blynyddoedd.