Y fam a'r ferch - Debbie Reynolds a Carrie Fisher, a fu farw o fewn diwrnod i'w giilydd (llun: AP)
Mae’r actores a’r gantores Debbie Reynolds wedi marw, prin ddiwrnod ar ôl colli ei merch Carrie Fisher.

Roedd hi’n 84 oed ac yn adnabyddus fel un o sêr Hollywood ers iddi chwarae rhan Kathy Selden yn y sioe gerdd Singin’ in the Rain yn 1952.

Roedd hi wedi dioddef strôc yng nghartref ei mab Tod Fisher yn Beverly Hills ddoe, lle’r oedden nhw’n gwneud trefniadau ar gyfer angladd Carrie Fisher.

Dywedodd Todd Fisher fod marwolaeth ei chwaer ddydd Mawrth wedi bod yn ormod i’w mam, ac mae ei geiriau olaf oedd bod arni eisiau bod gyda Carrie.

Fe fu farw Carrie Fisher, a ddaeth i amlygrwydd fel y Dywysoges Leia yn Star Wars, ddydd Mawrth ddyddiau ar ôl dioddef trawiad ar y galon wrth hedfan yn ôl o Lundain i Los Angeles.